Nid lwc yw hynny. Yoga ydy.
Mae ymarfer rheolaidd wedi trawsnewid gwirioneddol sut mae fy nghorff yn teimlo.
Rydw i wedi adeiladu cryfder yn fy mol a llawr y pelfis trwy waith cynnil a chyson.
Mae fy system nerfol wedi dysgu sut i ymlacio.
Rydw i hefyd wedi cysylltu â’m hymwybyddiaeth somatig: teimlo beth sy’n digwydd yn fy nghorff, mwy na wthio ymlaen.
Rydw i’n caru gweithio efo bobl ganol oed anhyblyg sydd wedi treulio degawdau wedi’u dal yn yr un patrymau o symud… helo i bawb sy’n gweithio adra neu yn y swyddfa!
Rydw i’n caru pobl iau sy’n darganfod sut i ffrindio â’u cyrff.
Rydw i’n caru pobl hŷn sy’n isio teimlo’n fwy symudol wrth fynd trwy fywyd bob dydd.
Nid yw yoga am fod yn hyblyg, yn ysbrydol, nac yn berffaith ar Instagram; mae’n ymwneud â theimlo’n well yn eich croen eich hun.
Basai awr neu ddwy o ioga yn y wythnos yn gwneud gwahaniaeth enfawr i chi, yn y tymor byr ac yn y tymor hir.
Ymunwch â un o’m dosbarthiadau wythnosol
Dydd Mawrth 6pm wyneb yn wyneb yn Fethesda neu ar-lein
Dydd Iau 6pm ar-lein

